Sut allai gysylltu â SaySomethingin.com Cyf i drafod materion data?

Gallwch anfon e-bost atom i admin@saysomethingin.com neu ysgrifennu atom:

SaySomethingin.com Cyf
Glaslyn
Ffordd y Parc
Parc Menai
BANGOR
Gwynedd
LL57 4FE
UNITED KINGDOM

 

Pwy sy’n gyfrifol am ddiogelu data?

Y swyddog sy’n gyfrifol am faterion data yw: Aran Jones, Prif Weithredwr

 

Pam fod angen i chi brosesu fy nata?

Rydym yn prosesu eich data er mwyn rhoi mynediad ichi i’n cyrsiau iaith a’n fforwm, i sicrhau bod aelodau ein cymuned yn cael gwybod am ddatblygiadau, ac i brosesu a chofnodi taliadau a mynediad i gyrsiau yn gywir.
Mae’r holl ddata yn cael ei gadw a’i brosesu trwy ganiatâd unigol. Mewn rhai achosion, a amlinellir isod, mae’r caniatâd hwnnw’n angenrheidiol er mwyn inni allu darparu’r gwasanaeth.

 

Gyda phwy ydych chi’n rhannu fy nata?

Nid ydym yn rhannu eich data.

 

Pa mor hir fyddwch chi’n cadw fy nata?

Mae eich cyfrif gwefan yn parhau i fod yn fyw nes ichi ofyn i gau eich cyfrif. Cedwir manylion talu gan broseswyr trydydd parti achrededig y diwydiant – Recurly a SagePay Europe, neu PayPal, neu American Express – ac maent yn amodol ar eu polisïau preifatrwydd hwy.

 

A allaf eich atal rhag defnyddio fy nata?

Gallwch ofyn i ni dynnu eich manylion oddi ar ein gwefan unrhyw bryd. Bydd hyn yn atal mynediad i unrhyw wasanaethau.Mae pob e-bost a yrrir yn gyffredinol i bawb yn cynnwys opsiwn “dad-danysgrifio” a fydd yn eich tynnu oddi ar unrhyw restr e-bost.

 

Pa ddata personol sydd gennych chi?

Pan fyddwch chi’n ymuno â’n cymuned rydych chi’n rhoi enw proffil a chyfeiriad e-bost cyswllt inni. Ar gyfer rhai o’n cyrsiau rydych chi’n rhoi manylion cyfeiriad inni hefyd.
Os ydych chi’n talu arian inni trwy PayPal neu drosglwyddiad banc, yna byddwn yn storio’ch enw PayPal neu’r cyfeirnod banc – fel arfer enw eich cyfrif a’ch cyfeirnod talu – i brosesu a chofnodi eich taliadau.

 

Beth os oes gennyf gŵyn?

Os oes gennych unrhyw gwynion am ein defnydd o’ch data, yna cysylltwch â ni. Os ydych yn anfodlon â’n hymateb, neu’n teimlo nad ydych yn gallu cysylltu â ni yn gyntaf, yna dylech gyfeirio’ch cwyn at Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar +44 (0) 303 123 1113.