Cymraeg yn y Gweithle

Yma yn SSi rydym yn deall pwysigrwydd dysgu Cymraeg mewn grwpiau – gyda ffrindiau neu gydweithwyr. Mae hyn wedi arwain at ddatblygu adnodd hyblyg ar gyfer y rhai sydd am ddysgu Cymraeg gyda chydweithwyr.
Mae ein darpariaeth Cymraeg yn y Gweithle yn caniatáu i un person redeg cyfrifon lluosog ar gyfer eu cyd-weithwyr busnes. Mae aelod penodol o staff SSi hefyd ar gael i ateb a delio ag unrhyw faterion sy’n codi i’r gweithwyr wrth ddilyn y cwrs ac mae anfonebu grŵp yn bosibl.
Mae defnyddwyr hirdymor y cyfleuster hwn yn cynnwys Unite, yr undeb mwyaf yn y Deyrnas Gyfunol, sy’n croesawu’r manteision o fedru rheoli anghenion amrywiol eu gweithwyr mewn un adnodd.
