Mae meithrin partneriaethau agos, llawn ymddiriedaeth yn hanfodol i ddatblygiad hirdymor SSi.

Yn ogystal â chyrff a gefnogir gan y llywodraeth yng Nghymru, rydym yn meithrin perthynas waith agos ag endidau masnachol, gweithleoedd a rhwydweithiau entrepreneuraidd i archwilio myrdd o gyfleoedd ar draws y byd.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Datblygu adnoddau Cymraeg pwrpasol ar gyfer aelodau Unite
  • Cynnal digwyddiadau hyrwyddo yn ystod yr haf ar gyfer ymwelwyr On The Beach i ddysgu Sbaeneg
  • Cydweithio â’r sefydliad Global Welsh i hyrwyddo Cymru ar draws y byd
  • Gweithio gyda nifer o sefydliadau lleol yn Sri Lanka i ystyried prosiectau addysg Tamil a Sinhalaidd

Rydym wastad yn barod i ystyried posibiliadau dysgu iaith gyda sefydliadau o’r un anian – cysylltwch â ni i drafod unrhyw bosibiliadau partneriaethol y credwch y gallwn eu hystyried gyda’n gilydd.

Cydweithrediad On the Beach

Fe wnaeth On the Beach bartneru â Saysomethingin yr haf yma i roi 5
awr o wersi Sbaeneg AM DDIM i deithwyr brwd ar eu ffordd i wledydd
Sbaeneg eu hiaith.

Darllen mwy

Rydym wastad yn agored i archwilio posibiliadau dysgu ieithoedd gyda
sefydliadau unfryd – cysylltwch â ni am unrhyw gyfleoedd partneru y
byddech chi’n hoffi eu trafod gyda ni.