Ein prif amcan yw hybu’r defnydd o Gymraeg llafar.
Gan fod ein dull unigryw o gyflawni’r nod hwn wedi bod mor boblogaidd a llwyddiannus, rydym yn awyddus i ddatblygu modiwlau dysgu ar gyfer ieithoedd eraill hefyd.
Yng Nghymru
Mae llwyddiant SaySomethingin i ddysgu’r Gymraeg wedi arwain at ddatblygu partneriaeth agos gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Rydym ar hyn o bryd yn datblygu nifer o brosiectau iaith pwysig ar gyfer y Gymraeg gan gynnwys:
- Modiwl ar gyfer Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid sy’n siarad Arabeg, Pashto a Dari i ddysgu Cymraeg
- Cynllun peilot ar gyfer disgyblion chweched dosbarth, mynychwyr coleg a phrentisiaid 16 i 18 oed i wella eu gallu i siarad Cymraeg
- Cefnogaeth flynyddol barhaus i ddarpariaeth y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer oedolion sy’n dysgu Cymraeg i gefnogi eu cynlluniau cyfredol
Gwelwn y Ganolfan Genedlaethol fel cydweithiwr agos yn ein cenhadaeth i wyrdroi’r newid a fu ym mhatrwm ieithyddol Cymru ac edrychwn ymlaen at gydweithio’n agos â nhw yn y dyfodol.
Mae SSi yn credu fod gan y diwydiant cynhyrchu ffilmiau rôl bwysig yn natblygiad yr iaith Gymraeg.
Rydym yn gweithio gyda nifer o gwmnïau cynhyrchu teledu a ffilm sy’n cofleidio’r Gymraeg gan ddefnyddio sawl fformat.
Er enghraifft, ers tro buom yn helpu enwogion i ddysgu Cymraeg ar gyfer eu hymddangosiad ar y rhaglen deledu Iaith ar Daith ar S4C.
Mae’r enwogion hyn yn cynnwys pobl fel Ruth Jones a Carol Vorderman, Rakie Ayola a Chris Coleman, Katie Owen a Mike Bubbins, ac mae methodoleg SSi wedi helpu.
Os credwch y gallwch chi neu’ch cwmni helpu i gynyddu’r niferoedd sy’n dysgu Cymraeg mewn unrhyw ffordd, cysylltwch ar unwaith â SSI, ac os teimlwch y gallwn ni eich helpu chi mewn unrhyw ffordd mae croeso ichi gysylltu.
Tu Hwnt i Gymru
Mae ein gwaith gyda’r Gymraeg wedi dangos llwyddiant methodoleg SSi ac rydym bellach am ymestyn ein cyrsiau i bob iaith.
Yn ogystal â’r Gymraeg, rydym ar hyn o bryd yn cynnig Sbaeneg, Manaweg a Chernyweg yn ogystal â Saesneg i siaradwyr Sbaeneg, a Saesneg i siaradwyr Mandarin.
Mae ein cyrsiau iaith eraill arfaethedig yn cynnwys:
- Eidaleg
- Arabeg
- Basgeg
- Gwyddeleg
- Gaeleg yr Alban
- Saesneg i siaradwyr Tamil
- Saesneg i siaradwyr Sinhalese