Dull newydd o weithredu
Yn ôl yn 2008, dechreuodd Aran Jones (awdur methodoleg SaySomethingin) y gwaith o geisio creu dull newydd o ddysgu iaith yn seiliedig ar dri math gwahanol o brofiad ieithyddol. Bu’n athro Saesneg dramor (fel iaith gyntaf ac ail iaith) ac roedd wedi ceisio, ond wedi methu, dysgu’r ieithoedd lleol yn yr holl wledydd y bu’n byw a gweithio ynddynt. Yna gallodd ddysgu’r Gymraeg yn llwyddiannus.
Hanes SaySomethingin
Rhoddodd ei gyfuniad o fethu a llwyddo syniad iddo. Po fwyaf y darllenai am sut mae’r ymennydd yn delio â ffurfio cof a chaffael iaith, y mwyaf y credai y gallai fod lle i ddatblygu dull gwahanol (ac efallai cynt) o ddysgu Cymraeg llafar.
Recordiwyd y gwersi SSiW cyntaf yn 2009, mewn stiwdio recordio fechan, damp, oedd wedi ei benthyg i Aran a Catrin fel ffafr gan ffrind. Yna yn 2010, gyda niferoedd y dysgwyr newydd yn cynyddu’n ddyddiol, ffurfiwyd SaySomethingin yn swyddogol fel cwmni.
Erbyn 2011 roedd y diddordeb a’r brwdfrydedd yr oedd SaySomethingin yn ei greu y tu hwnt i’n gobeithion gorau. Erbyn mis Gorffennaf y flwyddyn honno, enillodd SSi yn y categori Cymraeg Byd-eang yng ngwobrau’r IWA yng Nghaerdydd.
Tyfodd y tîm o sylfaenwyr a gwirfoddolwyr a dechreuodd y cwmni gyflogi staff. Roedd ein cymuned o ddysgwyr yn tyfu yn ogystal. Ac felly hefyd y nifer o ieithoedd yr oeddem yn eu darparu.
Ar ôl y Gymraeg, y Gernyweg oedd yr iaith newydd nesaf. Yna fe ddechreuon ni greu ein cyrsiau Sbaeneg ac Iseldireg, cyn i’r cyfle cyffrous godi i weithio gyda Culture Vannin (Sefydliad Treftadaeth Ynys Manaw) ar gwrs Manaweg.
Rydym bellach yn dîm o 10 o unigolion sy’n frwd am yr iaith gyda 11 cwrs iaith ar gael ac eraill ar ei ffordd.
Rydym wedi creu partneriaeth gyffrous gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, wedi gweithio ar brosiectau gydag S4C ac ar hyn o bryd yng nghanol prosiectau addysg peilot yng Nghymru a Sri Lanka.
Fel tîm gobeithiwn barhau i chwyldroi’r broses o ddysgu ieithoedd ar draws y byd oherwydd, fel y dywed y ddihareb Gymraeg:
‘Cenedl heb iaith, cenedl heb galon’