
Aran J
Prif WeithredwrDisgrifiad o’r rôl: Rwy’n cadw llygad ar yr holl elfennau amrywiol byrlymus, yn gweithio gydag arweinwyr tîm i sicrhau bod prosiectau ar y trywydd iawn, yn siarad â phartneriaid posibl ac yn arwain ar fethodoleg.
Cyfnod gyda SSi: Rwy’n un o gyd-sylfaenwyr y cwmni – fe wnaethom ni ffurfio fel cwmni yn 2010 ar ôl lansio ein cwrs cyntaf yn 2009. Rhyddhawyd y cwrs cyntaf 4 diwrnod cyn i fy merch gael ei geni, ac wrth edrych yn ôl, doedd hynny ddim yr amseru perffaith!
Ieithoedd: Rwy’n siarad Cymraeg a Saesneg, a gallaf gynnal sgyrsiau pleserus (gyda digon o gamgymeriadau difyr) mewn Sbaeneg a Ffrangeg. Mae gen i dipyn o Eidaleg, Arabeg ac Almaeneg, ond dim digon i gynnal sgwrs. Gallaf hefyd ddweud ‘Rydw i eisiau gwylio pêl-droed ar y penwythnos’ mewn Manaweg, brawddeg a fyddai’n fwy defnyddiol pe bawn i’n hoffi pêl-droed.
Ffaith ddiddorol amdanaf: rydw i wedi nofio gyda dolffiniaid yn Seland Newydd, wedi marchogaeth ceffyl trwy yr o sebras yn Zimbabwe, wedi gyrru o Seattle i Efrog Newydd, wedi byw yn yr Almaen, Portiwgal, Sri Lanka, Malaysia, Zimbabwe a Dubai, roeddwn yn arfer bod yn berchen ar beithon brenhinol o’r enw Dylan ac mae gen i hoffter angerddol o fyfyrdod.

Catrin J
Marchnata a ChyfathrebuDisgrifiad o’r rôl: Rwy’n cynorthwyo asiantaeth greadigol i wella proffil ein cwmni. Rwy’n darparu cynnwys diddorol ar gyfer ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan ac yn annog dysgwyr i gymryd rhan yn ein fforwm cymunedol.
Cyfnod gyda SSi: Rwy’n un o gyd-sefydlwyr SSi a threuliais rai blynyddoedd yn gwirfoddoli cyn ymuno’n swyddogol yn 2019
Ieithoedd: Cymraeg, Saesneg ac ychydig bach o Sbaeneg
Ffaith ddiddorol amdanaf: Rwy’n mwynhau’r her o greu celfyddyd gain a’r rhyddid wrth gerdded yn y bryniau. Gallaf sefyll ar fy mhen ac mi rydw i’n caru carioci. Roeddwn i’n arfer bod yn nani llawn amser i’r cyfoethog a’r enwog ac ar hyn o bryd rwy’n ysgrifennu fy ail nofel Gymraeg.

Catrin Rh
Rheolwr SwyddfaDisgrifiad o’r rôl: Rwy’n rhedeg swyddfa SSi. Rwy’n datblygu ac yn gweithredu systemau gweinyddol newydd, yn gofalu am gleientiaid SSi ac yn prosesu anfonebau a chyflogau. Mae fy set sgiliau yn seiliedig ar weinyddu, felly rwy’n aml yn ymateb i ymholiadau, sy’n fy nghadw ar flaenau fy nhraed a gwneud fy swydd yn ddiddorol.
Cyfnod gyda SSi: Ers mis Gorffennaf 2021
Ieithoedd: Cymraeg a Saesneg
Ffaith ddiddorol amdanaf: Roeddwn yn rhan allweddol o sefydlu Clwb Rhwyfo ym Moelfre, Ynys Môn ac mae 48 o aelodau bellach! O ddydd i ddydd dwi’n gweithio o stiwdio recordio dwi’n ei rhannu gyda fy ngŵr sy’n gerddor!

Deborah M
Tiwtor a Rheolwr Cymorth DysguDisgrifiad o’r Rôl: Fy mhrif rôl yw rhoi cymorth dyddiol i ddysgwyr Cymraeg a Sbaeneg drwy e-bost, ar Slack ac ar fforwm SSi, yn ogystal â chynnal diwrnodau dysgu dwys. Rwyf hefyd yn arwain sesiynau Holi ac Ateb ar-lein ac yn ysgrifennu’r cylchlythyr wythnosol. Dwi’n un o drefnwyr Eisteddfod Ar-lein a Bwtcamps Cymraeg SSiW.
Cyfnod gyda SSi: Dechreuais ddysgu Cymraeg gyda SSiW yn 2009, a dechreuais wirfoddoli yn 2010, cyn dod yn rhan o’r tîm yn 2015.
Ieithoedd: Saesneg, Cymraeg, Esperanto, Sbaeneg, ychydig o Ffrangeg, Almaeneg a Japanaeg, a dwi’n dysgu Basgeg ar hyn o bryd
Ffaith ddiddorol amdanaf: Rydw i wedi bod yn grwydryn am y rhan fwyaf o fy oes – bum yn byw mewn 5 tŷ gwahanol a 2 wlad wahanol erbyn imi fod yn 5 mlwydd oed! Rwyf bellach yn byw yng Ngwlad y Basg, ac o ystyried faint o waith caled ac ymroddiad sydd ei angen i ddysgu Basgeg, nid wyf yn bwriadu i hynny fynd yn ofer trwy symud eto!

Dr Joanne P
Cadeirydd y BwrddDisgrifiad o’r rôl: Fi sy’n bennaf gyfrifol am arwain y bwrdd a chyfrannu at gynllunio strategol
Cyfnod gyda SSi: Rwyf wedi bod gyda’r cwmni ers haf 2021
Ieithoedd: Saesneg a Ffrangeg
Ffaith ddiddorol amdanaf: Mae gen i raddau cyntaf (BSc Cyd-Anrh Bioleg Celloedd Meddygol a Biocemeg) ac ail raddau (PhD, Adran Meddygaeth) o Brifysgol Lerpwl. Mae teithiau cerdded ym myd natur yn falm i’m henaid, yn enwedig yng Ngogledd Cymru, ac rwy’n mwynhau bodloni fy ochr greadigol trwy baentio darluniau.

Faye R
Arweinydd Cynhyrchu CyrsiauDisgrifiad o’r rôl: Rwy’n cydlynu’r gwaith o greu cyrsiau gyda chyfieithwyr ac artistiaid llais, gan ddefnyddio ein meddalwedd i greu cynnwys yn unol â methodoleg SSi. Ar hyn o bryd rwy’n gweithio ar gyrsiau i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru, yn ogystal â chyrsiau blasu mewn Eidaleg, Arabeg, Gaeleg yr Alban, Gwyddeleg a Basgeg. Rwyf hefyd wedi bod yn rhan o greu cynnwys ar gyfer y cyrsiau Saesneg, felly efallai y byddwch yn clywed fy llais ar y rheini.
Cyfnod gyda SSi: Ers 2020, yn gyntaf yn creu a golygu cynnwys ar gyfer cyrsiau Saesneg ac yn fwy diweddar yn gweithio ar rai o’n prosiectau arbennig.
Ieithoedd: Saesneg ac Arabeg bob dydd. Dwi’n dysgu Cymraeg ar hyn o bryd.
Ffaith ddiddorol amdanaf: Rwy’n creu cerddoriaeth ac mae gennyf gof ffotograffig o wynebau pobl.

Ivan B
Datblygwr a Gweinyddwr SystemauDisgrifiad o’r rôl: Dw i’n cynnal isadeiledd rhwydwaith a gweinyddion SSi, yn ysgrifennu meddalwedd cefn a blaen, ac yn darparu cymorth technegol ail-linell i ddysgwyr.
Cyfnod gyda SSi: Dechreuais ar ddiwedd 2013, ond cyn hynny roeddwn i wedi bod yn aelod o gymuned SSi ers mis Ionawr 2010.
Ieithoedd: Saesneg fel mamiaith, rhugl yn y Gymraeg a’r Ffrangeg, gallu cynnal sgwrs yn Almaeneg ac Esperanto, goddefol yn bennaf mewn Sbaeneg ac Eidaleg. Dw i wedi cynnal sgyrsiau sylfaenol iawn yn Swedeg a Manaweg yn y gorffennol, ond mae’n debyg na allwn i wneud hynny erbyn hyn. Dw i wedi potsian ychydig gyda Ffinneg, Siapaneg, Pwyleg a Mandarin, ond ni allwn i ffurfio brawddeg go iawn i achub fy mywyd.
Ffaith ddiddorol amdanaf: Dw i’n aml yn mwynhau dysgu am bethau trwy greu fy fersiynau fy hun ohonyn nhw. Fel canlyniad, mae fy niddordebau yn cynnwys cyfansoddi cerddoriaeth, dylunio a gweithredu cyfrifiaduron retro, a dyfeisio ieithoedd artiffisial!

Jeff L
Cyfarwyddwr TechnegolDisgrifiad o’r rôl: Rwy’n bennaf gyfrifol am strategaeth dechnoleg gyffredinol, rheoli portffolio technoleg gan gynnwys SSiBorg, a goruchwylio datblygwyr
Cyfnod gyda SSi: Dechreuais wirfoddoli tua 2015, gan ddechrau gyda gwella ansawdd recordiadau sain, cyn symud i faes cynhyrchu cyrsiau gwirfoddol (Cymraeg ac yn enwedig Sbaeneg), ac yna dod yn rhan swyddogol o’r cwmni yn 2019.
Ieithoedd: Ffrangeg, peth Almaeneg, a dwi dysgu ychydig o Sbaeneg wrth gynhyrchu’r cwrs, ac wrth gwrs: Cymraeg!
Ffaith ddiddorol amdanaf: Yn fy amser hamdden, dwi’n gerddor: yn bennaf drymiwr ac mae gen i gasgliad difyr o ddrymiau llaw Ghana. Rwyf hefyd yn canu ac sacsoffonydd tipyn salach (mae gen i sacs tenor, alto a soprano, ond ar y foment yn anffodus fedra i ddim chwarae unrhyw un ohonynt yn dda!)

Kai S
Cydlynydd Dysgu Seiliedig ar WaithDisgrifiad o’r rôl: Fi yw’r prif gyswllt ar gyfer popeth sy’n ymwneud ag SSi Gweithle, rwy’n rhoi sylw i sesiynau grŵp ar-lein gyda dysgwyr Cymraeg pan nad yw Deborah a Nia ar gael ac rwy’n helpu gyda’r peilot addysg. Rwy hefyd yn gweithio ar ffordd o wella’r systemau rhannu gwybodaeth o fewn y cwmni gyda Faye. Rydw i’n hyblyg iawn, felly rydw i ar gael yn gyffredinol i helpu lle bynnag mae ei angen ar y cwmni.
Amser gyda SSi: Bum yn gwirfoddoli gyda SSi ers 2017, gan gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o dasgau. Yn 2019 pan symudais i Gymru yn llawn amser, dechreuais gymryd rhan fwy blaengar gyda’r cwmni ac yn 2021 deuthum yn rhan o’r tîm yn swyddogol.
Ieithoedd: Cymraeg, Ffinneg, Saesneg ac Eidaleg. Rwyf hefyd wedi potsian gyda peth Swedeg, Sbaeneg a Mandarin.
Ffaith ddiddorol amdanaf: Roeddwn i wastad wedi bwriadu astudio mathemateg neu ffiseg yn y brifysgol, ond ar hap fe ddeuthum ar draws y Gymraeg a syrthio mewn cariad â hi. Yn fuan fe wnes i ymdrochi yn niwylliant Cymru a datblygu angerdd tuag at lenyddiaeth Gymraeg, felly fe newidiais fy meddwl ac yn y pen draw ymgeisio am gwrs gradd gwahanol.

Nia Ll
Cymorth i DdysgwyrDisgrifiad o’r rôl: Rwy’n trefnu ac yn cymryd rhan mewn sgyrsiau grŵp dyddiol gydag aelodau Say Something in Welsh yn Slack. Rwy’n cefnogi dysgwyr sydd angen cymorth wrth iddynt weithio eu ffordd drwy’r cwrs SSiW. Trwy weithgareddau ar-lein ac wyneb yn wyneb rwy’n ceisio cyfoethogi teithiau dysgu iaith ein dysgwyr drwy eu cyflwyno i ddiwylliant a threftadaeth Cymru. Rwyf hefyd yn cynnal sesiynau Ymarfer Siarad Cymraeg wythnosol ac yn un o drefnwyr Bŵtcamps Cymraeg SSiW.
Cyfnod gyda SSi: Rwyf wedi bod yn gweithio i Say Something in Welsh ers dros bedair blynedd. Dechreuais gymryd rhan yn wreiddiol pan ofynnodd Aran i’r gymuned Gymraeg ei hiaith am wirfoddolwyr i sgwrsio â dysgwyr. Ers hynny rwyf heb edrych yn ôl.
Ieithoedd: Cymraeg a Saesneg, a rwy’n dysgu Gwyddeleg.
Ffaith ddiddorol amdanaf: Rwy’n rhedeg clwb cyfnewid cardiau post Cymraeg gyda fy ffrind Aled sy’n ffanatig cardiau post. Rwyf wrth fy modd yn gweithio’n rhan amser y tu ôl i’r bar yn fy nhafarn leol sy’n cael ei rhedeg gan y gymuned – rôl berffaith i mi gan mai siarad yw fy hoff hobi! Mae gen i hefyd Jack Russell oedrannus o’r enw Sam sydd wedi dod yn reit enwog gan fod llyfrau wedi eu sgwennu amdano yn y Gymraeg.

Nick P
Cyfarwyddwr AnweithredolDisgrifiad o’r rôl: Rwy’n goruchwylio ein partneriaethau a gwaith marchnata.
Cyfnod gyda SSi: Ymunais yn swyddogol yn Haf 2021, ond cyn hynny cefais fy nghyflwyno i’r cwmni gan Global Welsh yn 2019 – yn anterth y pandemig Covid!
Ieithoedd: Saesneg a Ffrangeg a byddaf yn dechrau fy nghwrs SSiWelsh eleni!
Ffaith ddiddorol amdanaf: Fel rhywun sy’n wirion bost am chwaraeon rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i fynychu nifer o rowndiau terfynol Cwpan y Byd pêl-droed, rygbi a chriced – yn anffodus, serch hynny, nid oes yr un ohonynt wedi cynnwys tîm o Gymru! Ond pwy a ŵyr beth a ddaw yn y dyfodol.

Rob A
Peiriannydd MeddalweddDisgrifiad rôl: Rwy’n ysgrifennu codau a rhaglenni. Rwy’n adeiladu AutoMagic ar gyfer iOS, yn cynnwys ysgrifennu’r cod sy’n cynhyrchu’r cynnwys fideo ‘wynebau’.
Cyfnod gyda SSi: Ymunais ym mis Ionawr 2022
Ieithoedd: Cymraeg, Saesneg
Ffaith ddiddorol amdanaf: Symudais i Ogledd Cymru yn 2017 a dechrau dysgu Cymraeg gyda SSi ar unwaith. Syrthiais mewn cariad â’r holl gysyniad o SSi a deuthum yn awyddus i ymwneud â’r cwmni. Rwy’n berchen ci ac yn gerddwr brwd ac rwyf newydd brynu peiriant weldio i mi fy hun!

Tom C
Pennaeth Addysg a Phrosiectau ArbennigDisgrifiad o’r rôl: Rwy’n canolbwyntio ar gymhwyso’r fethodoleg SSI i ddysgu iaith mewn ysgolion, gan ddechrau gyda’r Gymraeg ar gyfer ysgolion cyfrwng Saesneg, a datblygu Saesneg ar gyfer ysgolion cyfrwng Tamil-, Sinhaleg- a Mandarin.
Cyfnod gyda SSi: Dechreuais greu rhaglenni SSi arbrofol yn 2016 gyda Portiwgaleg a Tsieinëeg. Ymunais â’r cwmni yn swyddogol ym mis Mai 2021.
Ieithoedd: Sbaeneg, tipyn go lew o Tsieinëeg a Ffrangeg ac rwy’n gweithio ar y Gymraeg, Portiwgaleg ac Almaeneg
Ffaith ddiddorol amdanaf: Mae gen i 8 o blant, rydw i’n chwarae piano jazz ac rydw i wedi ysgrifennu llyfrau ar ddatrys problemau sydd wedi’u cyhoeddi mewn 6 iaith.