Mae SSi yn gwmni Cymreig balch

Fe’i sefydlwyd i wyrdroi’r newid a fu ym mhatrwm ieithyddol Cymru trwy ddatblygu methodoleg hollol wreiddiol o ddysgu iaith.

Er mwyn gwneud ein “ffordd naturiol o ddysgu Cymraeg” ar gael mor hawdd ac mor fforddiadwy i gynifer â phosibl, cafodd gwaith ar y rhyngrwyd gyda’r dechnoleg ddigidol fwyaf priodol ei gyfuno gyda chyfraniad tiwtoriaid personol.

O ganlyniad, ers ei ddechreuad ym mis Ionawr 2009, mae SaySomethingin Welsh wedi sefydlu cymuned gref a gweithgar o ddegau o filoedd o siaradwyr Cymraeg.

Mae’r Gymraeg yn greiddiol i’n bodolaeth, ond mae methodoleg SSi yn addas ar gyfer pob iaith. Ac felly mae gennym nod hirdymor o greu cyrsiau i bob iaith, yn enwedig y rhai sy’n ieithoedd brodorol neu’n ieithoedd dan fygythiad.

Byddwn hefyd yn sbarduno arloesedd technolegol perthnasol i wella sut mae ein methodoleg yn cael ei chyfleu, gan wella dealltwriaeth dysgwyr a’r nifer sy’n dewis dysgu iaith i gynifer â phosibl ledled y byd.

Hyn oll o’n canolfan yng Nghymru.