Siarad yn hyderus yn gynt

Mae SaySomethingin yn debyg i hyfforddiant dwyster uchel mewn hyrddiau (high intensity interval training) ar gyfer ieithoedd. Bydd yn eich gwthio i’r eithaf – ond yr ymdrech a wnewch yn arwain at ganlyniadau’n syndod o gyflym. Gallwch ddweud eich brawddeg gyntaf (yn hyderus) mewn ychydig funudau yn unig. Yna, byddwn yn parhau i ymestyn eich geirfa a hyblygrwydd. Ac, oherwydd y technegau cof a ddefnyddiwn, hyd yn oed pan fyddwch yn cymryd seibiant o’ch dysgu, ni fyddwch yn llithro’n ôl.

App Mockup 3

Rhodd Iaith

Beth am roi tanysgrifiad SaySomethingin i rywun trwy brynu tocyn anrheg? Chi sy’n dewis hyd y tanysgrifiad a thalu amdano. Byddwch yn derbyn dolen a chod trwy e-bost y gall y derbynnydd glicio arno i ddechrau eu tanysgrifiad.

Prynwch daleb yma

Leithoedd y gallwch eu dysgu trwy gyfrwng y Saesneg

Rydym yn ychwanegu ieithoedd newydd drwy’r amser, felly daliwch i sbio!

Cymraeg

Sbaeneg

Ffrangeg

Eidaleg

Ffinneg

Flag of the People's republic of China

Mandarin

Flag of Sweden

Swedeg

Siapaneg

Almaeneg 

Portiwgaleg

Newid eich ymennydd yn gorfforol

Mae SaySomethingin yn gweithio oherwydd ei fod yn ysgogi’ch ymennydd mewn ffyrdd priodol i greu a chryfhau synapsau newydd – sef y cysylltiadau rhwng niwronau sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o ddysgu. Fyddwch chi ddim yn ymwybodol o hyn nes i chi ddechrau cael y profiad rhyfedd ond hwyliog o eiriau newydd yn ‘ffrwtian yn eich ymennydd’, fel y cafodd ei ddisgrifio gan ein dysgwyr. Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw dilyn yr ap. Byddwn ni’n gofalu am y gweddill.

App-Mockup-2

Mae’n addasu gyda chi, ac i chi

Mae wastad groeso ichi ofyn am ychydig mwy o ymarfer os oes rhywbeth yn anodd, ac mae modd ichi neidio ymlaen os yw ychydig yn rhy hawdd – rydyn ni’n talu sylw i’r hyn rydych chi’n ei wneud, a bob amser yn mireinio eich taith ddysgu – rydym yn ceisio ffeindio’r lefel berffaith sydd ychydig tu hwnt i’r man lle rydych yn gysurus – lefel sy’n ddigon i’ch herio a sicrhau eich bod yn parhau i ddysgu’n gyflym, ond lle cewch hefyd ddigon o lwyddiant i deimlo’n gyffrous am yr hyn yr ydych yn ei gyflawni.

App-Mockup-New