Fyddwch chi ddim yn ymwybodol o hyn nes i chi ddechrau cael y profiad rhyfedd ond hwyliog o eiriau newydd yn ‘ffrwtian yn eich ymennydd’, fel y cafodd ei ddisgrifio gan ein dysgwyr. Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw dilyn yr ap. Byddwn ni’n gofalu am y gweddill.
Mae wastad groeso ichi ofyn am ychydig mwy o ymarfer os oes rhywbeth yn anodd, ac mae modd ichi neidio ymlaen os yw ychydig yn rhy hawdd – rydyn ni’n talu sylw i’r hyn rydych chi’n ei wneud, a bob amser yn mireinio eich taith ddysgu – rydym yn ceisio ffeindio’r lefel berffaith sydd ychydig tu hwnt i’r man lle rydych yn gysurus – lefel sy’n ddigon i’ch herio a sicrhau eich bod yn parhau i ddysgu’n gyflym, ond lle cewch hefyd ddigon o lwyddiant i deimlo’n gyffrous am yr hyn yr ydych yn ei gyflawni.