Ein prif amcan yw hybu’r defnydd o Gymraeg llafar.

Gan fod ein dull unigryw o gyflawni’r nod hwn wedi bod mor boblogaidd a llwyddiannus, rydym yn awyddus i ddatblygu modiwlau dysgu ar gyfer ieithoedd eraill hefyd.

Yng Nghymru

Mae llwyddiant SaySomethingin i ddysgu’r Gymraeg wedi arwain at ddatblygu partneriaeth agos gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Rydym ar hyn o bryd yn datblygu nifer o brosiectau iaith pwysig ar gyfer y Gymraeg gan gynnwys:

  • Modiwl ar gyfer Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid sy’n siarad Arabeg, Pashto a Dari i ddysgu Cymraeg
  • Cynllun peilot ar gyfer disgyblion chweched dosbarth, mynychwyr coleg a phrentisiaid 16 i 18 oed i wella eu gallu i siarad Cymraeg
  • Cefnogaeth flynyddol barhaus i ddarpariaeth y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer oedolion sy’n dysgu Cymraeg i gefnogi eu cynlluniau cyfredol

Gwelwn y Ganolfan Genedlaethol fel cydweithiwr agos yn ein cenhadaeth i wyrdroi’r newid a fu ym mhatrwm ieithyddol Cymru ac edrychwn ymlaen at gydweithio’n agos â nhw yn y dyfodol.

Mae SSi yn credu fod gan y diwydiant cynhyrchu ffilmiau rôl bwysig yn natblygiad yr iaith Gymraeg.

Rydym yn gweithio gyda nifer o gwmnïau cynhyrchu teledu a ffilm sy’n cofleidio’r Gymraeg gan ddefnyddio sawl fformat.

Er enghraifft, ers tro buom yn helpu enwogion i ddysgu Cymraeg ar gyfer eu hymddangosiad ar y rhaglen deledu Iaith ar Daith ar S4C.

Mae’r enwogion hyn yn cynnwys pobl fel Ruth Jones a Carol Vorderman, Rakie Ayola a Chris Coleman, Katie Owen a Mike Bubbins, ac mae methodoleg SSi wedi helpu.

Os credwch y gallwch chi neu’ch cwmni helpu i gynyddu’r niferoedd sy’n dysgu Cymraeg mewn unrhyw ffordd, cysylltwch ar unwaith â SSI, ac os teimlwch y gallwn ni eich helpu chi mewn unrhyw ffordd mae croeso ichi gysylltu.

Tu Hwnt i Gymru

Mae ein gwaith gyda’r Gymraeg wedi dangos llwyddiant methodoleg SSi ac rydym bellach am ymestyn ein cyrsiau i bob iaith.

Yn ogystal â’r Gymraeg, rydym ar hyn o bryd yn cynnig Sbaeneg, Manaweg a Chernyweg yn ogystal â Saesneg i siaradwyr Sbaeneg, a Saesneg i siaradwyr Mandarin.

Mae ein cyrsiau iaith eraill arfaethedig yn cynnwys:

  • Eidaleg
  • Arabeg
  • Basgeg
  • Gwyddeleg
  • Gaeleg yr Alban
  • Saesneg i siaradwyr Tamil
  • Saesneg i siaradwyr Sinhalese
Cysylltwch