Mae SSi yn gwmni Cymreig balch

Fe’i sefydlwyd i wyrdroi’r newid a fu ym mhatrwm ieithyddol Cymru trwy ddatblygu methodoleg hollol wreiddiol o ddysgu iaith.

Er mwyn gwneud ein “ffordd naturiol o ddysgu Cymraeg” ar gael mor hawdd ac mor fforddiadwy i gynifer â phosibl, cafodd gwaith ar y rhyngrwyd gyda’r dechnoleg ddigidol fwyaf priodol ei gyfuno gyda chyfraniad tiwtoriaid personol.

O ganlyniad, ers ei ddechreuad ym mis Ionawr 2009, mae SaySomethingin Welsh wedi sefydlu cymuned gref a gweithgar o ddegau o filoedd o siaradwyr Cymraeg.

Mwy o’n hanes
A Welsh flag flying at the top of a pole on the coast

Sbarduno arloesedd technolegol

Mae’r Gymraeg yn greiddiol i’n bodolaeth, ond mae methodoleg SSi yn addas ar gyfer pob iaith. Ac felly mae gennym nod hirdymor o greu cyrsiau i bob iaith, yn enwedig y rhai sy’n ieithoedd brodorol neu’n ieithoedd dan fygythiad.

Byddwn hefyd yn sbarduno arloesedd technolegol perthnasol i wella sut mae ein methodoleg yn cael ei chyfleu, gan wella dealltwriaeth dysgwyr a’r nifer sy’n dewis dysgu iaith i gynifer â phosibl ledled y byd.

Rydym eisoes wedi ychwanegu ieithoedd newydd at system ddysgu SaySomethingin a bydd mwy yn dilyn. Rydym hefyd yn datblygu ein technoleg dysgu er mwyn cynnig y profiad dysgu iaith gorau posibl. Mae gennym angerdd at ieithoedd ac at ddysgu ieithoedd, ac rydym yn edrych ymlaen at eich helpu i ddysgu ieithoedd newydd gyda’n dull unigryw.

Y cyfan o’n canolfan yng Nghymru.

Two women laughing and having a cup of tea

Ein methodoleg

Datblygodd Aran y Dull SaySomethingin yn seiliedig ar ei brofiadau yn ceisio dysgu amryw o ieithoeth – o Eidaleg i Shona, o Thai i Arabeg. Sylwodd ar batrymau wrth geisio dysgu a arweiniodd ef at astudio niwroplastigedd, a sut mae atgofion yn cael eu ffurfio. Dyma yw craidd y dull o hyd. Ond mae hefyd wedi bod wrthi ers dros bymtheg mlynedd, yn mireinio’r dull, yn seiliedig ar adborth gan ddysgwyr.

Atgofion

Mae ein haddysgu wedi’i seilio ar sefydlu ‘atgofion’ hirdymor. Atgofion am yr hyn rydyn ni’n ei alw’n ‘ymylon’, y bylchau rhwng geiriau – mae pob gair a ddysgwch yn cael ei ragflaenu a’i ddilyn gan wahanol ‘ymylon’
An illustration of a woman reading a book with a cup of tea steaming on a stack of books beside her. speech mark graphic

Ymylon

Po fwyaf o ‘ymylon’ y dewch i gysylltiad â nhw, y mwyaf medrus y byddwch wrth gynhyrchu brawddegau
An illustration of a man and woman studying, one with a book and one writing. speech mark graphic

Camgymeriadau

Mae gwneud camgymeriadau yn hanfodol, gan ei fod yn cryfhau’r atgofion cysylltiedig trwy feithrin goddefgarwch at y camgymeriadau a wneir wrth sgwrsio
An illustration of a man taking a break, taking off his glasses and rubbing his eyes, from studying with a book and laptop. speech mark graphic

Hyder

Mae pob un o’r uchod yn magu’r hyder i gynnal sgwrs. Ac felly, yn naturiol, byddwch yn cynnal mwy o sgyrsiau, a hynny yn ei dro yn eich gwneud yn rhugl yn gynt.
A man and a woman look at a tablet screen together. speech mark graphic